Geiriaduron ffôn "clasurol" (2007)

Os nad yw eich ffôn yn "glyfar", peidiwch â phoeni — dyma ap "clasurol" fydd efallai yn gweithio arno.

Llwythwch eiriadur dwyieithog ar eich ffôn symudol Java, a peidiwch â methu gair byth eto. Mwy cludadwy a llai amlwg na geiriadur poced. Y cyfan sydd eisiau ei wneud ydy llwytho un o'r geiriaduron isod lawr a'i roi ar eich ffôn.

open search

Mae'r geiriadur cyfan yn cael ei gadw ar eich ffôn — ni fydd o'n cysylltu â'r rhyngrwyd — felly unwaith eich bod wedi ei lwytho i lawr, mae modd ei ddefnyddio cymaint ag y mynnwch heb dim cost.

Ieithoedd sydd ar gael

Iaith Ffynhonnell y Geiriadur Cofnodion Telerau
Cymraeg-Saesneg cyffredinol Lecsicon Mark Nodine (www.cs.cf.ac.uk) 18,000 Llwytho i lawr am ddim
Cymraeg-Saesneg technegol Y Termiadur Ffôn (www.bangor.ac.uk/termiadur) 40,000 Llwytho i lawr am ddim
Croatieg-Saesneg FreeDict (http://www.freedict.org) 26,000 Llwytho i lawr am ddim, GPL

Cyfarwyddiadau

Dewiswch gyswllt i un o'r geiriaduron uchod. Cadwch y ffeil JAR ar eich cyfrifiadur, yna ei throsglwyddo i'ch ffôn, e.e. trwy ddefnyddio cebl neu Bluetooth. Yna agorwch y ffeil JAR ar eich ffôn a dechrau defnyddio'r rhaglennig — mae'r union ffordd i wneud hynny'n dibynnu ar fodel eich ffôn, ond dylai'r llawlyfr egluro.

Er mwyn chwilio am air, teipiwch ef yn y blwch chwilio'r geiriadur, yna dewis "Iawn" (gweler y sgrinlun). Bydd y geiriadur yn cael ei chwilio yn y ddwy iaith, felly gallwch deipio yn y naill iaith neu'r llall. Mae'n dibynnu ar fodel y ffôn sut yn union mae'r geiriadur yn ymddangos.

Gwadiad

Yn ein profiad mae'r geiriaduron yn rhedeg ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau Java (J2ME), ond ni allem ni wenud unrhyw warant ar gyfer eich dyfeis penodol chi. MAE'R HOLL DDEUNYDD AR Y SAFLE YMA YN CAEL EI DDARPARU HEB UNRHYW WARANT; heb hyd yn oed y warant oblygedig o FARSIANDWYAETH neu FFITRWYDD AT BWRPAS ARBENNIG.